P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martin Price, ar ôl casglu cyfanswm o 7,007 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae gan lawer o ysgolion ddiffyg yn y cyllidebau a osodwyd ganddynt ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24. Yn fwy na hynny, mae’n bosibl y bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn cyhoeddi diffyg yn eu cyllidebau ar gyfer 2024-25. Mae’r effeithiau ar blant yn ysgolion Cymru yn ddifrifol – addysgu a dysgu gwaeth, adeiladau gwaeth, pryderon ynghylch diogelwch a gorflinder staff.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Paratowyd y ddeiseb hon gan Gadeiryddion Cymdeithasau Llywodraethwyr ledled Cymru.

Mae effeithiau cyllid isel ar blant yn ysgolion Cymru fel a ganlyn:

• Gostyngiad yn ansawdd y dysgu ac addysgu

• Cymarebau oedolion/dysgwyr uwch

• Iechyd a diogelwch – llai o oruchwyliaeth oedolion, er enghraifft amser cinio ac egwylion

• Llai o staff cymorth, sy'n golygu bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn perygl o beidio â chael yr help sydd ei angen arnynt

• Llai o oedolion mewn ystafelloedd dosbarth, sy’n rhoi pawb mewn perygl

• Llai o athrawon – naill ai oherwydd staff yn gadael a neb yn cymryd eu lle neu oherwydd dileu swyddi

• Llai o waith cynnal a chadw ar adeiladau sy’n arwain at bryderon diogelwch

• Mwy o straen ar benaethiaid ac uwch-staff, sy’n arwain at fwy o absenoldeb oherwydd salwch a gorflinder

Ac ar yr un pryd mae ysgolion yn brwydro i roi diwygiadau addysgol ar waith.

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu ar fyrder lefel y cyllid ar gyfer addysg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf. Mae ein plant yn haeddu'r addysg orau ac ni ddylent ddioddef oherwydd toriadau ariannol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru